15 Tachwedd 2023
Annwyl Lorne, Sharon ac Yvonne
Diolch am eich llythyr at y Pwyllgor (dyddiedig 6 Hydref 2023) ynghylch canlyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru 2023. Bu’r Pwyllgor yn trafod eich llythyr yn ei gyfarfod ar 19 Hydref 2023.
Mae’r Pwyllgor yn deall yr heriau y mae Theatr Genedlaethol Cymru yn eu hwynebu yn dilyn penderfyniad adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru. Tra bod proses apelio yn mynd rhagddi, ni fyddai’n briodol i’r Pwyllgor wneud sylwadau’n gyhoeddus ar y penderfyniadau a wnaed gan gorff sy’n annibynnol ar y llywodraeth, ond deallwn fod disgwyl i’r broses hon ddod i ben yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Yn y cyfamser, byddwn yn fodlon cwrdd â chi yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor. Byddaf yn gofyn i swyddogion gysylltu â chi i drefnu amser addas i hyn ddigwydd.
Yn gywir
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.